Cartref
Welsh Site English Site
 

Telerau ac Amodau'r Wefan


1. Alexanders - Gwerthwyr Tai ac Eiddo

Partneriaeth breifat yw Alexanders a'u cyfeiriad cofrestredig yw 190 Cheltenham Road, Redland, Bristol, BS6 5RB ("Alexanders")

2. Y Wefan Hon

Alexanders sydd berchen y wefan a leolir ar http://www.caeceredig.co.uk (y "Wefan"). Wrth fynd i mewn i'r Wefan a'i defnyddio yr ydych chi, y defnyddiwr, yn cytuno i fod yn rhwymedig gan y telerau a'r amodau hyn (y "Telerau") sy'n rheoli eich mynediad i'r Wefan a'ch defnydd ohoni.

3. Perchnogi a Defnyddio'r Cynnwys

3.1 Y mae'r holl destunau, data, siartiau, tablau, meddalwedd, fideos, cerddoriaeth, sain, graffeg, ffotograffau, darluniau, gwaith celf, enwau, logos, nodau masnachu, nodau gwasanaeth a phob deunydd arall ar y Wefan (y "Cynnwys") a'r holl hawliau ynddi yn eiddo i Alexanders. Gallwch adalw ac arddangos Cynnwys y Wefan ar sgrin cyfrifiadur, printio tudalennau unigol ar bapur (ond nid eu llungopïo) a storio tudalennau o'r fath yn electronig ar ddisg (ond nid ar unrhyw weinyddydd na dyfais storio arall sy'n gysylltiedig â rhwydwaith) at eich defnydd personol. Ni ellir copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, llawrlwytho, postio, darlledu na throsglwyddo'r Cynnwys mewn unrhyw fodd arall.

3.2 Yr ydych yn cytuno i beidio ag addasu, newid na chreu gwaith ail-law sy'n deillio o unrhyw ran o'r Cynnwys ar y Wefan na'i ddefnyddio at unrhyw ddiben ar wahân i'ch defnydd personol ac anfasnachol chi eich hun.

4. Defnydd Anghyfreithlon

Yr ydych yn cytuno i ddefnyddio'r Wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig ac mewn modd nad sy'n tresmasu ar hawliau, nac yn cyfyngu ar, nac yn gwahardd, unrhyw drydydd parti rhag defnyddio a mwynhau'r Wefan. Y mae cyfyngiad neu waharddiad o'r fath yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ymddygiad sy'n ddifrïol, neu a allai aflonyddu, beri gofid neu anghyfleustra i unrhyw unigolyn, a'r weithred o drosglwyddo cynnwys anllad neu dramgwyddus neu darfu ar lif arferol deialog o fewn y Wefan.

5. Hawliau Eiddo Deallusol

5.1 Bydd pob hawlfraint, nod masnachu, hawliau cronfa ddata a hawliau eiddo deallusol eraill a all fodoli yn y Wefan hon a'r Cynnwys yn aros yn eiddo i Alexanders bob amser.

5.2 Y mae'r nodau masnachu, nodau gwasanaeth a'r logos sy'n cael eu defnyddio a'u harddangos ar y Wefan hon ("Nodau Masnachu") yn nodau masnachu cofrestredig neu anghofrestredig Alexanders. Ni ddylai unrhyw beth ar y Wefan hon gael ei ddehongli fel caniatâd, boed hynny'n ymhlyg neu fel arall, am drwydded neu hawl i ddefnyddio unrhyw Nod Masnachu heb ganiatâd ysgrifenedig oddi wrth Alexanders. Ni ellir defnyddio'r enw Alexanders mewn unrhyw fodd, gan gynnwys mewn hysbysebion na deunydd cyhoeddusrwydd sy'n ymwneud â dosbarthu'r Cynnwys heb yn gyntaf gael caniatâd ysgrifenedig Alexanders.

6. Atebolrwydd

6.1 Darperir y Wefan a'r Cynnwys ar sail 'FEL Y MAE' ac "YN UNOL Â'R HYN SYDD AR GAEL" ac nid yw Alexanders yn gwarantu cywirdeb, prydlondeb, cyflawnrwydd, perfformiad na phriodoldeb yng nghyswllt rhyw bwrpas penodol sydd i'r Wefan neu unrhyw Gynnwys. Y mae pob gwarant sy'n ymhlyg, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i warantau ymhlyg ansawdd boddhaol, priodoldeb ar gyfer pwrpas penodol, an-ymyrraeth, cytunedd, diogelwch a chywirdeb yn eithriedig o'r Telerau hyn i'r graddau y gellir eu heithrio fel mater o gyfraith.

6.2 Ni fydd Alexanders yn atebol ar unrhyw gyfrif am unrhyw golled gan gynnwys, heb gyfyngiad, colled anuniongyrchol neu ôl-ddilynol, nac am unrhyw iawndal yn codi o golli defnydd, data neu elw, pa un ai o fewn cytundeb, camwedd ynteu fel arall, o ganlyniad i ddefnyddio'r Wefan hon neu'n gysylltiedig â'i defnyddio.

6.3 Y mae Alexanders wedi ceisio sicrhau bod y Cynnwys a gyflwynir ar y Wefan yn gywir drwyddo draw adeg ei gyhoeddi. Darperir y Cynnwys ar sail hysbysrwydd yn unig ac ni ddylid dibynnu arno. Ni dderbynnir cyfrifoldeb gan neu ar ran Alexanders am unrhyw gamgymeriadau, bylchau, neu Gynnwys camarweiniol ar y Wefan neu ar unrhyw wefan y mae'r Wefan hon yn gysylltiedig â hwy.

6.4 Nid yw Alexanders yn gwarantu y bydd y Wefan na'r Cynnwys yn rhydd o ymyrraeth a chamgymeriadau, y bydd unrhyw ddiffygion yn cael eu cywiro, nac ychwaith y bydd y Wefan hon neu'r gweinyddydd sy'n peri ei bod ar gael, yn rhydd o firysau a bygiau.

7. Preifatrwydd

Y mae'n angenrheidiol eich bod yn darllen a derbyn Polisi Preifatrwydd Alexanders sy'n rhoi manylion yngl?n â pha fath o wybodaeth bersonol y gall Alexanders ei chasglu amdanoch pan fyddwch yn ymweld â'r Wefan a sut y gall Alexanders storio a defnyddio'r wybodaeth yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a Deddf Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003.

8. Newidiadau yn y Termau

Y mae Alexanders yn cadw'r hawl, fel y gwêl orau, i newid unrhyw ran o'r Wefan neu'r Telerau hyn. Pan fydd y Telerau hyn yn cael eu diwygio, bydd Alexanders yn cyhoeddi manylion y diwygiadau ar y Wefan. Cymerir bod eich defnydd parhaus chi o'r Wefan yn gytundeb ar eich rhan i fod yn rhwymedig gan y Telerau hyn, fel y'u diwygiwyd.

9. Awdurdodaeth

Bydd y Telerau hyn yn cael eu gweinyddu a'u dehongli yn unol â Chyfraith Lloegr ac yn amodol ar awdurdodaeth unigryw Llysoedd Lloegr.

10. Toradwyedd

Os penderfynir bod y Telerau hyn neu unrhyw ran ohonynt yn anghyfreithlon, yn ddi-rym neu fel arall yn anorfodadwy dan ddeddfau unrhyw wladwriaeth neu wlad lle bwriedir i'r Telerau hyn fod yn effeithiol, yna i'r graddau y maent mor anghyfreithlon, ddi-rym neu anorfodadwy, yn y wladwriaeth neu'r wlad honno ystyrir eu bod wedi'u torri ymaith a'u diddymu o'r Telerau hyn a bydd y Telerau sy'n aros yn goroesi ac yn aros yn gwbl rymus ac effeithiol ac yn parhau i fod yn rhwymol a gorfodadwy yn y wladwriaeth neu'r wlad honno.

11. Gwrthdaro

Os oes unrhyw wrthdaro rhwng y Telerau hyn ac unrhyw gytundeb ysgrifenedig arall rhyngoch chi ac Alexanders, yna'r olaf a drecha.

12. Digwyddiadau y tu hwnt i'n rheolaeth

Ni fydd Alexanders yn gyfrifol am unrhyw doriad o'r Telerau hyn a achosir gan amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth rhesymol.

13. Dolenni Cyswllt

Nid yw Alexanders yn gyfrifol am natur gyraeddadwy na chynnwys unrhyw wefannau neu ddeunydd trydydd parti y gallwch fynd atynt drwy'r Wefan hon.

14. Llawrlwytho Ffeiliau

Y mae rhai ffeiliau o'r Cynnwys ar gael i'w llawrlwytho o'r Wefan. Y mae ffeiliau'r Cynnwys hyn yn amodol ar y Telerau hyn.

15. Cyswllt

Os hoffech gysylltu ag Alexanders yngl?n â'r Wefan, y Telerau hyn neu'r Polisi Preifatrwydd, cysylltwch â ni drwy'r post neu'n bersonol yn Cambrian Chambers, Terrace Road, Aberystwyth, Ceredigion, SY25 1NY, drwy ffonio 01970 636000 neu e-bostio caeceredig@alexanders-online.co.uk

 
LOGO: Alexanders