Nid tref glan môr yn unig yw Aberystwyth. Mae hi wedi ei lleoli ar ymyl Bae Ceredigion ac wedi ei hamgylchynu gan fynyddoedd ac afonydd mewn cefn gwlad hardd sydd heb ei ddifetha. Cyfeirir at Aberystwyth fel prif ganolfan diwylliant Cymru gan lawer gan fod sawl sefydliad pwysig megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Brifysgol i’w cael yma. Mae hyn wedi sicrhau awyrgylch sy’n blethiad iach ac unigryw o hanes a thraddodiad gyda syniadau newydd blaengar.