Ganwyd Ceredig yn nhiriogaethau ei dad, Cunedda Wledig, Manau Gododdin. Pan alwyd arnynt i goncro’r goresgynwyr Gwyddelig o ogledd Cymru ar ddechrau’r 5ed ganrif, teithiodd i lawr yno gyda gweddill ei deulu. Brwydrodd yn ddewr yn erbyn y Gwyddelod, a gwobrwywyd ef gyda tir fwyaf deheuol tiriogath newydd ei dad, oedd ar ymyl Dyfed, ac a oedd o bosib yn cynnwys Cantre’r Gwalod. Enwyd yr ardal ar ei ôl oherwydd ei farc a’i ddylanwad arni, sef Ceredigion.
Mae Datblygiad Cae Ceredig mewn lleoliad gwych ar bwys afon, ond eto'n agos at ganol tref hanesyddol Aberystwyth. Mae'r datblygiad uchel ei safon yn cynnwys aneddau cymysg gan gynnwys cartrefi cyntaf un-stafell-wely, tai pâr dwy- a thair-stafell wely, tai tref tri llawr a thai gweithredol ar eu pennau'u hunain. Mae gan bob tñ wres canolog nwy, ffenestri dwbl, ffitiadau mewnol o safon uchel a gwarant adeiladu 'Zurich' 10 mlynedd.
Dros y tair mlynedd ddiwethaf maent wedi datblygu 30 o dai ar wahân a thai unllawr yng Nghae Ceredig. Manteisir ar y profiad hwn yn ystod cam nesaf y prosiect mawreddog hwn gan ddarparu mwy o amrywiaeth o dai gwahanol.
Ganwyd Ceredig yn Manau Gododdin - cartref brodorol ei dad, Cunedda Wledig - sydd o gwmpas y Firth of Forth Uchaf. Pan alwyd arno i ymladd goresgynwyr Gwyddelig o Ogledd Cymru yn nechrau'r bumed ganrif, teithiodd i'r de gyda gweddill ei deulu. Ymladdodd yn ddewr yn erbyn y Gaeliaid, a gwobrwywyd ef gan ei dad gyda rhan ddeheuol ei deyrnas newydd, ar ffin Dyfed, o bosib yn cynnwys rhan o Gantre'r Gwaelod. Cymaint oedd cysylltiad Ceredig â'r ardal fel y galwyd hi'n Ceredigion ar ei ôl. Mae Ceredigion yn rhannu'r un ffiniau â sir hanesyddol Aberteifi sy'n ymestyn o'r arfordir gorllewinol ar Fae Ceredigion i fynydd-dir a bryniau a chymoedd mewndirol Pumlumon, sydd yn 752 metr (2,468 troedfedd) o uchder.